Techniquest

Mae Techniquest yn ganolfan darganfod gwyddoniaeth flaenllaw sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth ac arloesedd.

Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm. Rydyn ni newydd weddnewid Techniquest, ac mae’n gartref i gynulleidfaoedd o bob oed ymwneud â phynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Gallwch ddarganfod mwy am ein gweledigaeth yn ein strategaeth, a dilynwch y dolenni isod i weld ein:

Disability Confident Employer We are a Living Wage Employer

“Mae e wedi bod yn hyfryd cydweithio â phob un ohonoch chi. Roedd e fel bod yn rhan o un teulu MAWR. ‘Dw i wedi mwynhau bob dydd. Diolch am yr atgofion melys. Bydda i’n gweld eisiau pawb.”

Shameema [hen eilod o'n tîm], Mawrth 2023

Gweler isod restr o swyddi gwag presennol a sut i ymgeisio.

Rheolwr Ymgysylltu

Swydd: Parhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Cyflog: £30,000

Ydych chi’n angerddol am rannu pynciau STEM gydag eraill ac ysgogi chwilfrydedd am wyddoniaeth ymhlith pawb o’ch cwmpas?

Rydyn ni’n chwilio am gyfathrebwr gwyddoniaeth hynod drefnus a rhagweithiol sy’n angerddol am gyflwyno cynnwys cyffrous a deniadol i blant ac oedolion fel ei gilydd.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sgiliau rheoli pobl cryf, gyda’r gallu i feithrin yr angerdd yna mewn pobl eraill er mwyn cael y gorau o’u tîm; rhywun sy’n benderfynol o fynd â’n cyfleoedd gwyddoniaeth byw yn Techniquest i lefelau stratosfferig!

Byddan nhw’n gyfrifol am redeg y Theatr Wyddoniaeth, y Planetariwm a Labordy KLA, ynghyd â goruchwylio’r gwaith ‘clera’ gwyddonol a’r gwaith ymgysylltu cyffredinol ag ymwelwyr ar lawr yr arddangosfa, a bydd ganddynt hefyd ddealltwriaeth gadarn o iechyd a diogelwch, gan y byddant yn gyfrifol am bob agwedd ar storio a defnyddio cemegau gyda gweithgareddau ysgol a gweithgareddau cyhoeddus.

Os yw hyn yn swnio fel her yr hoffech chi ymgymryd â hi, ewch i gael golwg ar y disgrifiad swydd manwl ac os yw’n teimlo fel swydd addas i chi, cwblhewch y ffurflen gais a’i chyflwyno i ni erbyn hanner nos ar 15 Tachwedd.

Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal ddydd Gwener 22 Tachwedd 2024.

Os hoffech chi wneud cais, llenwch ein ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal o dan.

  Disgrifiad o’r Swydd   Ffurflen cais   Ffurflen cyfleoedd cyfartal   Cyflwyno’ch cais