Nodwch mai Saesneg yw iaith y sioe hon.
Mae’n hawdd i ni feddwl am Gymru fel gwlad fechan, ond ar lwyfan y byd, mae ein gwyddonwyr yn disgleirio!
Mae Cymru wedi annog ac ysbrydoli gwyddonwyr sydd wedi dylanwadu ar fywydau pobl o bob cwr o’r byd.
Ymunwch â ni wrth i ni edrych ar arloeswyr o Gymru a’u cyfraniad anhygoel i fyd gwyddoniaeth. Darganfyddwch sut mae gwyddonwyr o Gymru ar flaen y gad.
Byddwn hefyd yn gweld sut mae’r wyddoniaeth sy’n digwydd yng Nghymru heddiw yn debygol o gael effaith arbennig ar y byd am flynyddoedd i ddod!
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2