Nid oes maes parcio i ymwelwyr ar safle Techniquest, ond mae sawl maes parcio gerllaw.
Rydyn ni’n falch o gynnig parcio am gyfradd is i bob un o’n hymwelwyr, gyda Q-Park, ein partner parcio dewisol. Mae maes parcio Q-Park ar Stryd Pierhead, Bae Caerdydd, oddeutu 8 munud o gerdded o Techniquest.
Rydyn ni wedi cytuno ar gyfradd arbennig, sef gostyngiad o 15% ar bris parcio i’n cwsmeriaid os ydynt yn archebu gofod parcio ymlaen llaw.
Archebwch ymlaen llaw a defnyddiwch y cod TECHNI15.
Neu, mae meysydd parcio agosach ar Stryd Stuart a Stryd Havannah. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â pharcio yn uniongyrchol ar Stryd Havannah.
Mae gwasanaethau trên rheolaidd rhwng Stryd y Frenhines, Caerdydd a Bae Caerdydd – mae Techniquest oddeutu 10 munud o gerdded o Orsaf Bae Caerdydd.
Trainline National Rail Trafnidiaeth Cymru
Teithiwch ar wasanaeth rheolaidd y Bae (rhif 6) o ganol y ddinas, neu rif 8 o Ysbyty Mynydd Bychan/canol y ddinas. Mae yna wasanaethau bws eraill yn stopio wrth Techniquest – gwelwch wefan Traveline neu wasanaethau cynllunio taith eraill i weld yr holl opsiynau posib.
Mae Techniquest wedi’i leoli yn agos at gychwyn Taith Taf. Mae gan OVO Bikes, y gwasanaeth rhannu beiciau, dri stop gerllaw. Mae gennym ni gyfleusterau storio beiciau wrth y brif fynedfa.
Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw achos o golli neu ddifrodi unrhyw feiciau a gadwir yma.