Dewch gyda ni i le nid yw unrhywbeth yn hollol fel y mae’n ymddangos…
Darganfyddwch fyd cemeg anhygoel yn ein sioe wyddoniaeth fyw newydd sbon, llawn trawsffurfiadau clyfar, newidiadau lliwiau a diweddglo ffrwydrol.
Bydd eich cyflwynydd yn consurio â chemegion a golau, mewn cyflwyniad wedi’i gynllunio i synu a rhyfeddu cynulleidfaoedd.
Ai gwyddoniaeth neu hud ydyw? Dewch i weld bod y cyfan yn hollol elfennol, fy annwyl Watson!
Nodwch mai Saesneg yw iaith y sioe hon.
Mae’n gyflwynyddion Sioe Wyddoniaeth Fyw yn datblygu i’r grŵp maen nhw’n cyflwyno i, felly gall unrhywun o 5 i 95 cymryd rhan!
Mae ‘na siawns byddwch chi ddim yn ffeindio’r demos fyw ym mherthnasol i blant dan bump, ond all wneud yn siŵr gan ofyn eilod o’r tîm.
Plîs nodwch fod angen i bob tocyn sioe cael ei archebu law-yn-llaw efo tocyn cyffredinol. Cofiwch archebu eich ymweliadau cryn dipyn ymlaen llaw gan fod mynediad yn dal yn ddarostyngedig i argaeledd!
Mae yna ffrwydrad swnllyd tuag at ddiwedd y sioe. Bydd pawb yn derbyn amddiffynwyr clust cyn i’r sioe dechrau, a bydd digon o rybudd cyn y ffrwydrad.
Penwythnosau ym mis Tachwedd
dyddiadau ar gael