Sut mae dŵr o nant mynydd yn troi’n hallt? All donnau’r môr droi mewn i gymylau glaw? Sut mae gwymon lliwgar yn helpu cadw’n cefnforoedd yn iach?
Ymunwch â ni ar daith trwy fyd rhyfeddol dŵr yn ein gweithdai ymarferol, a dysgwch lawer am lefelau pH, cylchau dŵr, effeithiau positif ffytoplancton, a mwy.
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2
Dydy’r gweithgaredd hwn ddim yn addas i blant dan 7 oed. Mae pob plentyn sy’n archebu tocyn angen cael eu cyfeilio gan o leiaf 1 oedolyn (dydy oedolion ddim yn talu). Bydd ‘na dim mynediad i blant dan 7.
Cymerwch eich disgyblion i brofi bod yn wyddonwyr go iawn yn ein Labordy KLA newydd sbon, wedi’i gydgyfnerthu gan y Sefydliad Garfield Weston.