Nid unigolion yn unig sy’n buddio o berthynas glos gyda Techniquest — mae pecynnau ar gael i Gefnogwyr Corfforaethol hefyd.
Gallwch gefnogi Techniquest drwy dreulio fwy o amser gyda ni a dod i’n ’nabod yn well.
Pan fo arian yn dynn, gwyddwn mor anodd yw hi i wario arian ar docynnau yn rheolaidd. Dyna pam fod ein tocyn adegau tawel mor wych. Mae’r tocyn yn caniatáu i chi ddod yn ôl i edrych o gwmpas y brif arddangosfa cynifer o weithiau a fynnwch mewn cyfnod o 12 mis o brynu’r tocyn. Mae’r tocyn yn gymwys ar unrhyw benwythnos y tu allan i wyliau ysgol lleol, ac ar unrhyw ddiwrnod wythnos yn ystod y tymor ysgol.
Mae’r adegau hyn fel arfer yn dawelach, felly mae’n amser gwych i ymweld â ni os oes well gennych chi osgoi’r dorf yn ystod y gwyliau ysgol.
HEB RODD | GYDA RHODD | |
---|---|---|
Oedolyn 16+ oed | £31.81 | £35.00 |
Plentyn 3-15 oed | £27.27 | £30.00 |
Teulu Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn (16+) | £113.64 | £125.00 |
Consesiwn | £29.09 | £32.00 |
Po fwyaf y byddwch yn ymweld â Techniquest, po fwyaf o arian y byddwch yn ei arbed. Byddwch yn cychwyn arbed arian ar ôl eich trydydd ymweliad.
Gallwch ddefnyddio’ch tocyn adegau tawel ar-lein unrhyw bryd – ond cofiwch, bydd angen i chi barhau i archebu eich ymweliadau cryn dipyn ymlaen llaw gan fod mynediad yn dal yn ddarostyngedig i argaeledd!
2023: 1–16 Ebrill, 27 Mai–4 Mehefin, 22 Gorffenaf–3 Medi, 28 Hydref–5 Tachwedd, 23–31 Rhagfyr
2024: 1–7 Ionawr, 10–18 Chwefror, 23 Mawrth–7 Ebrill, 25 Mai–2 Mehefin, 20 Gorffenaf