Techniquest

Wrth eich bodd â gwyddoniaeth a gwaith Techniquest? Beth am fod yn Ffrind i ni, a rhannu ein hangerdd dros wyddoniaeth gydag eraill?

Rydyn ni’n rhoi cyfleoedd am ddim i’r disgyblion ysgol sydd eu hangen fwyaf, yn rhedeg prosiectau gyda grwpiau cymunedol ac yn rhannu gwybodaeth ar draws sectorau gwahanol, er mwyn taflu goleuni ar wyddoniaeth yng Nghymru.

Nid yw hyn yn bosib heb eich cefnogaeth chi.

Helpwch ni i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fwynhau ac ymwneud â gwyddoniaeth, drwy ymuno â ni heddiw a bod yn Ffrind i Techniquest.

Am gyn lleied â £5 y mis byddwch yn derbyn y buddion canlynol:

Yn bwysicach fyth, byddwch yn cyfrannu at yr hyn a wnawn ac yn ein helpu ni i barhau ein gwaith yn addysgu ac yn ysbrydoli cenhedloedd y dyfodol. Diolch.

  Byddwch yn ffrind

Cefnogwyr Corfforaethol

Nid unigolion yn unig sy’n buddio o berthynas glos gyda Techniquest — mae pecynnau ar gael i Gefnogwyr Corfforaethol hefyd.

  Darganfyddwch fwy

TOCYN ADEGAU TAWEL

Gallwch gefnogi Techniquest drwy dreulio fwy o amser gyda ni a dod i’n ’nabod yn well.

Pan fo arian yn dynn, gwyddwn mor anodd yw hi i wario arian ar docynnau yn rheolaidd. Dyna pam fod ein tocyn adegau tawel mor wych. Mae’r tocyn yn caniatáu i chi ddod yn ôl i edrych o gwmpas y brif arddangosfa cynifer o weithiau a fynnwch mewn cyfnod o 12 mis o brynu’r tocyn. Mae’r tocyn yn gymwys ar unrhyw benwythnos y tu allan i wyliau ysgol lleol, ac ar unrhyw ddiwrnod wythnos yn ystod y tymor ysgol.

Mae’r adegau hyn fel arfer yn dawelach, felly mae’n amser gwych i ymweld â ni os oes well gennych chi osgoi’r dorf yn ystod y gwyliau ysgol.

 Gyda rhoddHeb rodd
Oedolyn
16+ oed
£35.00£31.81
Plentyn
3-15 oed
£30.00£27.27
Teulu
Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn (16+)
£125.00£113.64
Consesiwn£32.00£29.09

Po fwyaf y byddwch yn ymweld â Techniquest, po fwyaf o arian y byddwch yn ei arbed. Byddwch yn cychwyn arbed arian ar ôl eich trydydd ymweliad.

Gallwch ddefnyddio’ch tocyn adegau tawel ar-lein unrhyw bryd — ond cofiwch, bydd angen i chi barhau i archebu eich ymweliadau cryn dipyn ymlaen llaw gan fod mynediad yn dal yn ddarostyngedig i argaeledd!

  Cymerwch eich tocyn

Dim ond y defnyddiwr a enwir gall ddefnyddio pob tocyn a brynir ac ni ddylid ei rannu ag eraill. Dim ond un tocyn gall cael ei archebu ar unrhyw un dydd.


Dyddiadau gwyliau ysgol eithriedig

2024: 1–7 Ionawr10–18 Chwefror23 Mawrth–7 Ebrill25 Mai–2 Mehefin,
20 Gorffennaf–1 Medi26 Hydref–3 Tachwedd, 21–31 Rhagfyr
2025: 1–5 Ionawr, 22 Chwefror–2 Mawrth, 12–27 Ebrill, 24 Mai–1 Mehefin, 19 Gorffennaf–31 Awst
Byddem yn ychwanegu rhagor o ddyddiadau gwaharddiad 2025 yn fuan.