Ar Ddiwrnodau Plant Bach mae’r arddangosfeydd wedi’u neilltuo i blant bach, er mwyn iddynt gael mwynhau mewn awyrgylch ddiogel.
Yn ystod pob Diwrnod Plant Bach bydd nifer o weithgareddau wedi’u teilwra’n arbennig i’ch plant ifanc. Mae rhai yn gynwysedig ym mhris eich tocyn ac mae ambell i un yn costio’n ychwanegol.
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Addurnwch eich hun gyda throsluniau lliwgar, a dangoswch y patrymau gwych i’ch ffrindiau bach.
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Ydy’r plantos angen hoe fach o’r arddangosfeydd? Beth am ymlacio a mwynhau bod yn greadigol?
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Beth am swatio yn ein cornel ddarllen a mwynhau casgliad hyfryd o lyfrau Cymraeg a Saesneg a storïau rhyngweithiol.
Ynghyd â’r gweithgareddau poblogaidd uchod, dyma weithgareddau eraill sydd ar gael ar Ddiwrnodau Plant Bach:
Mae’n swnio fel bod pawb angen taith fach heddiw, Ond oes yna le ar yr ysgubell?
Ymunwch â ni ar daith synhwyraidd ryngweithiol, wrth i ni gwrdd â’r wrach a’i ffrindiau. Helpwch ni i gymysgu diod, a chreu banadl eich hun i hedfan arno.
£3 y plentyn
Math o docyn | Safonol | Gyda rhodd* |
---|---|---|
Plant bach 0–2 oed | Am ddim | Am ddim |
Oedolyn 16+ oed | £11.81 | £13.00 |
Plentyn 3–15 oed | £10.00 | £11.00 |
Consesiwn Yn gymwys i: Bobl hŷn (65+); ymwelwyr sydd ag anabledd; myfyrwyr sydd â cherdyn NUS dilys; derbynyddion Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth adnabod. | £10.45 | £11.50 |
Gofalwr hanfodol Bydd angen i chi ddod â thystiolaeth adnabod gyda chi fel y gallwn ni brosesu eich tocyn mynediad. 1 gofalwr hanfodol fesul tocyn consesiwn. | Am ddim | Am ddim |
Teulu Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn (16+) | £40.90 | £45.00 |
*Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.
Un dydd Gwener y mis yn ystod y tymor ysgol
dyddiadau ar gael