Techniquest

Beth am rwydweithio gyda chleientiaid a chydweithwyr dros ddiod, mewn awyrgylch hyfryd yma yn Techniquest?

Mae lle i hyd at 800 o bobl. Rhwng 7pm a 10pm gallwch chi a’ch gwesteion fwynhau ein harddangosfeydd a rhwydweithio’n hamddenol. Mae pob un arddangosyn yn cynnig tamaid o adloniant, ac yn sicr o gychwyn sgwrs – perffaith ar gyfer digwyddiad rhwydweithio!

MAE’R PECYN RHWYDWEITHIO YN CYNNWYS:

  • Defnydd ecsgliwsif o Techniquest rhwng 7pm a 10pm
  • Detholiad o ganapés blasus
  • Ystafell gotiau gydag aelod o staff penodedig
  • Tîm diogelwch i ofalu am eich rhestr o westeion
  • Dodrefn achlysurol
  • Sgriniau ar gael ar gyfer brandio
  • Rheolwr Digwyddiadau penodedig
  • Pecynnau coctels ar gael

CYSYLLTWCH Â NI

Cysylltwch â’n tîm cyfeillgar i drafod sut y gallwn ni eich helpu chi i drefnu’r digwyddiad rhwydweithio perffaith.  E-Bostiwch ni   029 2047 5475

Bwydlen Canapé Enghreifftiol

Dewiswch 3 canapé blasus o’n bwydlen dymhorol. Bydd y rhain yn cael eu gweini yn ystod eich digwyddiad:

‘Parfait’ afu cyw iâr, marmalêd nionod, cnau Ffrengig a brioche

Cig eidion, sbigoglys a marchruddygl wedi’u lapio mewn pwdin Swydd Efrog

Tarten ham brau a chaws stilton

Chipolatas gyda sglein mêl wedi’u lapio mewn ham wedi’i sychu

Blinis eog mwg, pomgranad, ffenigl

Betysen rhost, afal a chaws geifr (Ll)

Melon dŵr, caws ffeta, olif a basil (Ll)

Tartenni Cennin a chaws Caerffili (Ll)

Caws pob bychan gyda jam nionod a chwrw

Ffyn tomato a mozzarella (Ll)

Gweyll cig oen gyda sbeis Dwyreiniol, gydag iogwrt blas rhosyn

Byrgyrs caws a bacwn wedi’u gwneud â llaw, mewn byns brioche

Hufen iâ sawrus caws geifr mewn conau

Penfras a sglodion bychan gyda ‘mayo’ pys

Macrell wedi’i goginio mewn padell, salad tatws a letysen

Stêc a sglodion bychan gyda saws tomato cartref

Bon bon cig eidion wedi’i goginio’n araf, gydag aer marchruddygl


Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer anghenion dietegol arbennig.

Cysylltwch â ni drwy ffonio 029 2047 5475 neu e-bostiwch [email protected] i drafod sut y gallwn ni eich helpu chi drefnu’r digwyddiad perffaith