Nodwch mai Saesneg yw iaith y sioe hon.
Dewch ar daith yn ôl drwy hanes i’r canol oesoedd gwyllt.
Efallai mai marchog, iarlles, gwas, morwyn neu gof fyddwch chi. Waeth beth fo’ch rôl, ar ôl ennill y frwydr ddiweddaraf, mae’n rhaid i chi ddiogelu eich cartref â’ch tir.
Ymunwch â ni i adeiladu castell! Byddwn yn ystyried y lleoliad, y gwaith adeiladu a’i nerth amddiffynnol. Beth fydd angen ar y castell i sefyll yn gadarn yn wyneb byddinoedd ymosodol?
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2