Ymunwch â Delyth wrth iddi deithio o gwmpas y byd i ymuno â rhai o’i pherthnasau.
Helpwch Delyth i ddarllen y rhagolygon tywydd ac i bacio ar gyfer ei thaith arbennig. Yna ymunwch â hi wrth iddi hedfan i Ghana i archwilio sut mae pobl yn byw a’r math o ynni maent yn ei ddefnyddio yno.
Yna mae disgyblion yn ymweld â chyfnither Delyth, Erla yng Ngwlad yr Ia ac yn archwilio effeithiau’r tywydd ar y gemau y maent yn eu chwarae yno.
Mae’r sioe theatr wyddoniaeth hon yn archwilio mapiau, cyfeiriadau a gwledydd eraill ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu a datrys problemau’r disgyblion. Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod o arddangosiadau rhyngweithiol a hyd yn oed yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y llwyfan sy’n cynnwys cystadlu yn erbyn eu hathro i adeiladu dyn eira anferth, profi ffynnon ynni solar a theithio gan ddefnyddio map anferth.
Cam Cynnydd 2 Y Cyfnod Sylfaenol