Nodwch mai Saesneg yw iaith y sioe hon.
Dewch i dreulio amser yn archwilio’r tir, y gwynt a thân mewn byd o eithafion, a hynny o gysur eich sedd yn ein Theatr Wyddoniaeth glud.
Beth sy’n wyllt am dân gwyllt? Sut mae tornado yn gweithio? Pam fod mellt yn tanio ar draws yr awyr? Beth yw lafa? Pan fydd daeargryn yn digwydd sut gallwn ni ddiogelu adeiladau fel bod pawb yn ddiogel?
Darganfyddwch hyn a llawer mwy wrth i ni deithio ar draws y byd, yn darganfod ambell i beth gwyllt sy’n digwydd ar ein planed anhygoel. Planed sy’n troi mil milltir yr awr, sydd â haenen denau o atmosffer yn ei gwarchod rhag y gofod, a hinsawdd sy’n newid yn barhaus!
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2