Beth am ychwanegu opsiynau megis sioe wyddoniaeth fyw, taith o dan y sêr yn y planetariwm neu brofiad ymarferol yn y Lab KLA i gwblhau eich ymweliad?
Mae pob sioe wedi’i theilwra yn unol â’r cwricwlwm ac wedi’i thargedu ar gyfer Camau Cynnydd a Chyfnodau Allweddol gwahanol.
Pan fyddwch yn cyrraedd ein hadeilad, byddwch yn cael eich croesau gan staff Techniquest a fydd yn esbonio trefniadau eich ymweliad ac yn sicrhau bod pob dim yn rhedeg yn esmwyth. Gall athrawon ganolbwyntio ar y disgyblion a’r profiad dysgu.
Mae ymweliadau ysgol ar gael bob dydd Mercher a dydd Iau a bron bob dydd Gwener yn ystod y tymor ysgol.
Gallwch ddewis o un o’r slotiau amser canlynol, yn ddibynnol ar argaeledd:
Math o Ymweliad | Opsiwn 1 | Opsiwn 2 | Opsiwn 3 |
---|---|---|---|
Gyda Sioe Wyddoniaeth Fyw | 10:15am – 1:00pm | 10:45am – 1:30pm | 11:00am – 2:00pm |
Gyda sioe Blanetariwm | 10:00am – 12:45pm | 10:30am – 1:15pm | 10:45am – 1:30pm |
Gyda gweithdy Lab KLA | 11:00am – 2:00pm | 11:15am – 2:15pm | – |
Arddangosfeydd yn unig | Gwahanol amseroedd ar gael, yn ddibynnol ar argaeledd |
Rydyn ni’n rhan o ‘The Great British School Trip’, sydd wedi’i gefnogi gan Hyundai! Oes angen cymorth ariannol neu adnoddau addysgol ar eich ysgol chi, ar gyfer taith ysgol? Darganfyddwch fwy o fanylion a sut i wneud cais.
Beth am ychwanegu sioe wyddoniaeth anhygoel, i gyfoethogi profiad eich disgyblion?
Cam Cynnydd 2 Y Cyfnod Sylfaen
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2
Cam Cynnydd 2 Y Cyfnod Sylfaen
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2
Cam Cynnydd 2 Y Cyfnod Sylfaen
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2
Mae sioeau gwyddoniaeth £2 ychwanegol fesul bob disgybl..
Camwch i mewn i Blanetariwm ddigidol Techniquest a dewch am dro drwy’r Bydysawd — mae sêr, planedau a galaethau diri yn aros amdanoch chi!
Bydd disgyblion yn dysgu sut i adnabod sêr, planedau a chytserau y gellir eu gweld o’r Ddaear, ac yn mentro tu hwnt i’r Llwybr Llaethog i weld rhyfeddodau’r bydysawd. Gall gyflwynwyr ddangos y sêr a’r planedau’n agos, a rhannu lluniau o graterau lleuadau pell a ffenomenau eraill. Mae’r cyfan yn helpu atgyfnerthu profiadau dysgu’r disgyblion ac yn annog angerdd am gosmoleg a seryddiaeth.
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2
Mae sioeau Planetariwm yn £2 ychwanegol fesul bob disgybl.
Newydd — ein Lab KLA newydd sbon, wedi’i ariannu gan y Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad KLA.
Dewch â’ch disgyblion i brofi beth yw bod yn wyddonwr go iawn! Mae pob gweithdy’n para 45 munud. Dewiswch un o’r gweithdy sydd ar gael.
Sut mae dŵr o nant mynydd yn troi’n hallt? All donnau’r môr droi mewn i gymylau glaw? Sut mae gwymon lliwgar yn helpu cadw’n cefnforoedd yn iach?
Ymunwch â ni ar daith trwy fyd rhyfeddol dŵr yn ein gweithdai ymarferol, a dysgwch lawer am lefelau pH, cylchau dŵr, effeithiau positif ffytoplancton, a mwy.
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2
13–15, 20–22 Medi 2023
Archwiliwch fyd lliwgar gwyddoniaeth!
Darganfyddwch y sbectrwm anhygoel o liwiau sydd i’w gweld mewn gwyddoniaeth trwy’n hamrywiaeth o arddangosiadau ac arbrofion ymarferol!
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2
28–29 Medi 2023
4–5 Hydref 2023
Ai hud neu wyddoniaeth ydyw?
Bydd myfyrwyr yn camu i esgidiau dewin yn y gweithdy hwn, wrth iddyn nhw arsylwi a chynnal amrywiaeth o arbrofion ‘hud neu wyddoniaeth’!
Ydyn nhw’n gallu newid lliw rhywbeth, neu’i dymheredd, neu hyd yn oed wneud i rywbeth hedfan?
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2
18–20, 25–27 Hydref 2023
8–9 Tachwedd 2023
Sut mae dŵr yn swnio a golau’n ymddwyn yn y gofod?
Beth fydd yn digwydd i’n cyrff mewn gwactod? Sut mae gwrthrychau’r gofod yn edrych a beth sydd ganddyn nhw’n gyffredin?
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2
15, 17, 22-24, 29-30 Tachwedd 2023
Mae allwedd hud Siôn Corn wedi mynd ar goll!
Credwn ei fod wedi’i ddwyn gan un o’i goblynnod. Trwy ddefnyddio nifer o ddulliau gwyddonol, bydd myfyrwyr yn ceisio datrys y drosedd, dal y troseddwr, ac achub Y Nadolig!
Byddant yn chwilio am olion bysedd, defnyddio microsgopau i astudio dillad a chromatograffaeth i ddadansoddi inc.
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2
2-3, 6-7, 13-14, 20-21 Rhagfyr 2023
Mae gweithdy Lab yn £2 ychwanegol fesul bob disgybl.
Mae mynediad i’r arddangosfa, sydd bellach yn cynnwys dros 100 o arddangosion ymarferol yn £5 y plentyn.
Mae gweithgareddau ychwanegol fel a ganlyn:
Mynediad am ddim i athrawon sy’n mynychu gyda disgyblion.
Cwblhewch ein ffurflen ymholi a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.