Ai hud neu wyddoniaeth ydyw?
Bydd myfyrwyr yn camu i esgidiau dewin yn y gweithdy hwn, wrth iddyn nhw arsylwi a chynnal amrywiaeth o arbrofion ‘hud neu wyddoniaeth’!
Ydyn nhw’n gallu newid lliw rhywbeth, neu’i dymheredd, neu hyd yn oed wneud i rywbeth diflannu?
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2
Dydy’r gweithgaredd hwn ddim yn addas i blant dan 7 oed. Mae pob plentyn sy’n archebu tocyn angen cael eu cyfeilio gan o leiaf 1 oedolyn (dydy oedolion ddim yn talu). Bydd ‘na dim mynediad i blant dan 7.
Nodwch: Rydym ni’n defnyddio cychwynnydd van de graaf yn y gweithdy hwn. Os ydy unrhyw un yn eich grŵp yn gwisgo rheoliadur, mewnblaniad cochlea, neu unrhyw ddyfais sy’n cynnwys magnetau, mae yna berygl o deimlo ymyrraeth fagnetig.
Cymerwch eich disgyblion i brofi bod yn wyddonwyr go iawn yn ein Labordy KLA newydd sbon, wedi’i gydgyfnerthu gan y Sefydliad Garfield Weston.