Techniquest

Amseroedd agor

Mae capasiti yn gyfyngedig, felly archebwch ar-lein ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Rydyn ni’n rhoi amseroedd penodol i ddeiliaid tocynnau ddod i mewn i’r ganolfan, gyda’r amser olaf dwy awr cyn i’r adeilad gau. Ceisiwch sicrhau eich bod yn cyrraedd dim hwyrach na 30 munud ar ôl eich amser penodedig.

Saturday 18 January 10:00 AM – 5:00 PM
Sunday 19 January 10:00 AM – 5:00 PM
Monday 20 January Closed
Tuesday 21 January Closed
Wednesday 22 January 2:00 PM – 5:00 PM
Thursday 23 January 2:00 PM – 5:00 PM
Friday 24 January 2:00 PM – 5:00 PM

Pris mynediad

Math o docynGyda rhodd*Safonol
Oedolyn
16+ Oed
£13.00£11.81
Plentyn
3–15 Oed
£11.00£10.00
Dan 3 oed
0–2 Oed
Am ddimAm ddim
Consesiwn
Yn gymwys i: Bobl hŷn (65+); ymwelwyr sydd ag anabledd; myfyrwyr sydd â cherdyn NUS dilys; derbynyddion Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth adnabod.
£11.50£10.45
Gofalwr hanfodol
Bydd angen i chi ddod â thystiolaeth adnabod gyda chi fel y gallwn ni brosesu eich tocyn mynediad. 1 gofalwr hanfodol fesul tocyn consesiwn.
Am ddimAm ddim
Teulu
Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn/consesiwn (16+)
£45.00£40.90
  archebu tocynnau

Ydych chi’n ddeiliad tocyn Adegau Tawel? Mae dal angen i chi archebu cyn ymweld er mwyn sicrhau mynediad. Darganfyddwch fwy am y Tocyn Adegau Tawel.

Grŵp o 12-40 o bobl? Gallwch fanteisio ar ddisgownt grŵp wrth drefnu eich ymweliad. Os ydych chi’n trefnu ymweliad ar gyfer 41+ o bobl, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

* Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.

Tocyn Adegau Tawel

Dewch i Techniquest yn amlach ac archebwch arian drwy gofrestru am docyn adegau tawel blynyddol!

Mae’r tocyn yn caniatáu i chi ddod yn ôl i edrych o gwmpas y brif arddangosfa cynifer o weithiau a fynnwch mewn cyfnod o 12 mis o’r adeg y prynwyd y tocyn. Mae’r tocyn yn gymwys ar unrhyw benwythnos y tu allan i wyliau ysgol lleol, neu ar unrhyw ddiwrnod wythnos, ar mynediad hwyr neu ar Ddiwrnod Plant Bach sy’n rhedeg yn ystod y tymor ysgol.

Mae’r adegau hyn fel arfer yn dawelach, felly mae’n amser gwych i ymweld â ni os oes well gennych chi osgoi’r dorf yn ystod y gwyliau ysgol.

 Gyda rhoddHeb rodd
Oedolyn
16+ oed
£35.00£31.81
Plentyn
3-15 oed
£30.00£27.27
Teulu
Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn (16+)
£125.00£113.64
Consesiwn£32.00£29.09

Po fwyaf y byddwch yn ymweld â Techniquest, po fwyaf o arian y byddwch yn ei arbed. Byddwch yn cychwyn arbed arian ar ôl eich trydydd ymweliad.

Peidiwch â phoeni, gallwch barhau i ychwanegu sioe wyddoniaeth fyw, ymweliad â’r planetariwm neu weithdy ymarferol i’ch archeb pryd bynnag a fynnwch. I wneud hyn, ychwanegwch yr opsiwn dewisol i’ch archeb wrth archebu eich ymweliad ar-lein, am bris arferol o £2 ychwanegol fesul person.

 Cymerwch eich tocyn

Dim ond y defnyddiwr a enwir gall ddefnyddio pob tocyn a brynir ac ni ddylid ei rannu ag eraill. Dim ond un tocyn gall cael ei archebu ar unrhyw un dydd.


Ydych chi’n ddeiliad tocyn eisoes?

Mae dal angen i chi archebu lle ymlaen llaw i sicrhau mynediad!

  Mynediad Cyffredinol   Mynediad Hwyr   Diwrnod Plant Bach


Dyddiadau Gwyliau Ysgol Eithriedig

2024: 1–7 Ionawr10–18 Chwefror23 Mawrth–7 Ebrill25 Mai–2 Mehefin, 20 Gorffennaf–1 Medi26 Hydref–3 Tachwedd, 21–31 Rhagfyr
2025: 1–5 Ionawr, 22 Chwefror–2 Mawrth, 12–27 Ebrill, 24 Mai–1 Mehefin, 19 Gorffennaf–31 Awst
Byddem yn ychwanegu rhagor o ddyddiadau gwaharddiad 2025 yn fuan.